I Hen Gariad gan E. Prosser Rhys 

Pan fyddo lleuad Hydref yn y nen
Yn gwenu’r wên nad yw yn hen o hyd,
A’r môr a’r pell fynyddoedd o tan len
A droed, gan dduw yr oed, yn aur i gyd;
Pan fyddo cornant lawn y mawn a’r brwyn
Yn frwd gan antur ym Mhant Arthur draw,
A’r gwynt wrth Droed y Foel, o lwyn i lwyn,
Yn cellwair â chariadon am a ddaw–
Bryd hynny, fe fydd hiraeth na bu ‘rioed
Ei anniddicach ar gy nghalon i–
Na chaffwn eto’r traserch imi a roed
Un Hydref arall, yma, gennyt ti,
Ac na rôi’r Hydre’n ôl y nefol nwyd
I un a’i collodd yn y Gaeaf llwyd.

o ‘Cerddi Prosser Rhys,’ 1950.

Comments

Popular Posts