(Llun gan Efa Lois, Drudwen) Nofelydd, Bardd ac Arlunydd (1909-1958) ‘My pen traces paths. I’ll walk over the hills of peace for on the far side are my stories.’
Enw
genedigol Margiad Evans oedd Peggy Eileen Whistler. Daeth ei ffugenw,
Margiad Evans, o’i hymuniaethu â Chymru - Evans oedd cyfenw ei Mamgu ar
ochr ei thad, a oedd, o bosib, yn Gymraes. ‘Margiad’ yw un o ffurfiau
Gymreig yr enw ‘Peggy’. Roedd gan Margiad atgofion melys o ymweliadau
â’i modryb yng nghefn gwlad Swydd Henffordd.
Ei nofelau enwocaf yw: Country Dance (1932), The Wooden Doctor (1933), Turf of Stone (1934) a Creed (1936). Mae tipyn o’r rhain wedi ei gosod yn y Gororau.
Caiff
Margiad Evans ei hystyried fel awdur oedd yn ymuniaethu ag ardaloedd y
ffin, gyda themâu ffinioldeb yn arwyddocaol yn ei hysgrifennu. Yn
Country Dance, mae Mam Ann yn Gymreig, a’i thad yn Seisnig, ac mae’r
ffaith ei bod hi’n dewis rhwng cariadon Cymreig a Saesnig yn
adlewyrchu’r ffiniau hyn.
Ganwyd Margiad Evans ym
Middlesex ar yr 17eg o Fawrth, 1909, i Godfrey James Whistler a
Katherine Isabel. Margiad oedd yr ail blentyn – roedd dwy chwaer ganddi,
a brawd iau.
Pan oedd hi’n 9 mlwydd oed, aeth ar ei
hymweliad cyntaf â fferm ei modryb yn Rhosan-ar-Wy (Ross on Wye). Aeth
yng nghwmni ei chwaer Nancy. Ysgrifennodd gerdd i Nancy yn hwyrach yn ei
bywyd, o’r enw ‘To my Sister Sian’ (yn ‘A Candle Ahead’).
Priododd
Margiad ddyn o’r enw Michael Williams yn 1940, a oedd yn Gymro ar ochr
ei dad. Symudodd y cwpl i Langarron yn 1941. Roedd hi’n gweithio ar
ffermydd yn yr ardal ac yn mwynhau ei bywyd. Yn y lleoliad hwn
ysgrifennodd farddoniaeth, straeon byrion a’i hunangofiant.
Dechreuodd perthynas Margiad â Ruth Farr yn mis Ebrill 1934 (Bohata, 2013), (menyw a alwodd Margiad yn ‘confessed and obvious lesbian’ yn ei dyddiadur yn 1934). Parodd y berthynas sawl blwyddyn, ac arhosodd y menywod yn ffrindiau agos drwy’r 1940au (Bohata, 2013).
Mae yna agweddau deurywiol yng nghymeriadau Margiad. Yn ei stori fer ‘A Modest Adornment’ (1948),
ceir sôn am berthynas hen gwpl benywaidd hoyw yn chwalu o flaen y
gymuned leol. Mae’r stori yn dilyn Mrs Webb, sy’n wraig weddw, sy’n dyst
i’r berthynas o’r tu allan. Mae’n bosib bod gan gymeriad Mrs Webb
deimladau tuag at Miss Plant, un o’r menywod yn y berthynas. Mae’r
stori yn cyflwyno delweddau negyddol wrth drafod un o’r menywod hoyw,
Miss Allensmore, ond mae’r stori yn gorffen wrth ddangos cryfer
teimladau Miss Plant tuag at Miss Allensmore: ‘I can no longer bear to live away from you.’
Roedd Margiad yn driw i’w gŵr – ysgrifennodd lythyr ato bob dydd yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y Llynges.
Ganwyd ferch i Margiad a Michael yn 1951, a enwyd yn Cassandra.
Yn
1953, bu’n rhaid i’r teulu symud i Sussex, lle roedd hi’n hiraethu yn
fawr am y Gororau. Roed Margiad yn dioddef o epilepsi eisoes, ond tua’r
cyfnod hwn cafodd ddiagnosis o diwmor ar ei hymennydd.
Ysgrifennodd am ei salwch yn y gyfrol ‘A Ray of Darkness’ a ‘The Nightingale Silenced’.
Ennillodd ei chyfrol ‘A Candle Ahead’ wobr gan bwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau 3 wythnos cyn ei marwolaeth.
Bu Margiad Evans farw ar y 17eg o Fawrth, 1958, yn 49 oed.
Mae
cryn ddiddordeb wedi datblygu yng ngwaith Margiad Evans ers yr 1990au,
gydag astudiaethau yn cael eu cynnal i themâu salwch, rhywioldeb a’r
‘ffin Gymreig’ yn ei gwaith.
Darllen Pellach: Sue Asbee. ‘Introduction,’ The Wooden Doctor. Kirsti Bohata; Katie Gramich. Rediscovering Margiad Evans: Marginality, Gender and Illness. Ceridwen Lloyd-Morgan. Margiad Evans. Mae archifau Margiad Evans yn y LlGC (gweler https://blog.llyfrgell.cymru/?p=17085) ac mae rhestr o’i cyhoeddiadau ar Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Margiad_Evans
Mae
Mair Jones yn fyfyriwr MA Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi
wrthi’n ysgrifennu ei Thraethawd Hir ar hanes LHDT+ Cymru.
Comments
Post a Comment