Y Pechadur gan E. Prosser Rhys

Eisteddem, dri ohonom, wrth y tân,
A thrymder Tachwedd ar hyd maes a stryd,
Eisteddem, wedi blino ar lyfrau’n lân,
A sgwrsio am “ddeniadau cnawd a byd.”
Soniasom am y pethau ffôl na ŵyr
Ond llanciau gaffael ynddynt liw na gwres,
Y pethau a gerdd ar lanw eu gwaed fin hwyr,
A phorthi heb borthi’u blys; a’u tynnu’n nes.
Ym mhen y sgwrs addefais innau’r modd
Y pechais i tan drais cywreinrwydd poeth;
Gofynnais a bechasent hwy? … . A throdd
Y ddau, a brolio eu hymatal doeth!
Ac yno, wrth y tân, yn un o dri,
Gwelais nad oedd bechadur ond myfi.
O ‘Cerddi Prosser Rhys,’ 1950.

Comments

Popular Posts