Un Ar Hugain gan E. Prosser Rhys (21)

Gwae bod ieuenctid yn fy nghalon fach,
A’i hoen yn anesmwythyd yn fy ngwaed;
Gwae i mi amau y credoau iach,
A bwrw a barchai ‘nhadau tan fy nhraed;
Gwae i mi feddwl fy meddyliau f’hun,
A gwag freuddwydio fy mreuddwydion oll;
Gwae i mi wgu ar ragrith, ar bob llun,
A ffol ddyheu am ryw gywirdeb coll–
Ac na chawn ysbryd hen, a bodlon iawn,
A gallu caru Crist y Pulpud Pren,
A chredu bod y nef, beth bynnag wnawn,
Yn dyfod a’i harfaethau i gyd i ben;
A theimlo’n hogyn un ar hugain oed
Na bydd y byd ond fel y bu erioed.

https://journals.library.wales/view/1319198/1319490/11#?xywh=406%2C2123%2C2128%2C1753


Comments

Popular Posts