Enillodd E. Prosser Rhys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypŵl gydag ‘Atgof’ yn 1924.

 

Yn ddylanwadol yn ei fywyd fel bardd, golygydd, newyddiadurwr a chyhoeddwr, mae Prosser Rhys yn cael ei gofio heddiw am gipio’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1924. Mor ddylanwadol ag oedd ei gerdd fuddugol, ‘Atgof,’ a’n parhau i fod, cafodd Prosser mwy fyth o effaith ar lenyddiaeth Gymraeg yn ei fywyd nag a gofir heddiw.

Ganed Edward Prosser Rees ar y 4ydd o Fawrth 1901 yn Nhrefenter, Mynydd Bach yng Ngheredigion, a'i fedyddio ar y 9fed o Fawrth yng Nghapel Bethel. Gof (blacksmith) oedd ei dad, David Rees, a'i fam oedd Elizabeth Rees. Daeth Prosser o deulu o ofaint (blacksmiths), a symudasant yn ddiweddarach i’r Morfa Du yn Nhrefenter (wedi i Prosser symud i ffwrdd, ym mis Mawrth 1918). Cyn hyn, buont yn byw yn Llainffwlbert hyd 1900, lle bu iddynt eu chwe phlentyn blaenorol.

Aeth Prosser Rhys i Ysgol Gynradd Cofadail yn Nhrefenter ac yna Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth yn 1914. Aeth llenorion, academyddion a gwleidyddion eraill yma, a elwid yn ‘Hen Ardwyniaid’. Cafodd ei lwyddiant academaidd cynnar ei atal wedyn gan afiechyd - cafodd ddiagnosis o dwbercwlosis yn ifanc, yn 1915, a effeithiodd arno am weddill ei oes, ond ar unwaith fe'i cadwodd adref am y 3 blwyddyn nesaf.

Dechreuodd ei enw ymddangos ym myd ysgrifennu Cymraeg mor gynnar â 1916, gyda'r gerdd 'Y Fam a'i Baban’ yn y Baner ac Amserau Cymru, lle cyhoeddwyd fel E. Prosser Rees (o dan y ffugenw Eiddwenfab) o Drefenter, Llangwyryfon, Ceredigion. Yn 1917, ysgrifennodd lythyrau huawdl at ‘Y Darian’, papur radicalaidd, lle ysgrifennodd am ymuno ag undeb gwladgarol a’r Eisteddfod. Roedd hyn yn addas gan iddo ymddangos nesaf yn Y Darian yn 1918 oherwydd ei fuddugoliaethau cynnar yn yr Eisteddfod, yna yn Eisteddfodau lleol, a restrwyd o fewn yr enillwyr o Geredigion. Ymddangosodd yn aml yn Y Darian fel rhan o ‘Aelwyd y Beirdd,’ lle caiff ei ddisgrifio fel bardd ifanc â photensial mawr, ond yn 17 oed, a brawd y Parchedig Wyre Rees.

Yn amlwg, roedd Prosser yn aml yn ysgrifennu, cystadlu a’’n perfformio ei farddoniaeth yn ei arddegau. Ceir un o’i gerddi cynnar yn ‘Cymru,’ cylchgrawn misol a sefydlwyd gan O.M. Edwards yn 1891. Yn 1919 ymddangosodd ‘Canu’r Merched’ gan E. Prosser Rhys yn y cylchgrawn ‘Cymru’. Dyma'r tro gyntaf, mae’n debyg, o'i farddoniaeth i ymddangos dan yr enw hwn. Roedd ‘Prosser Rees,’ ei enw genedigol, yn ymddangos hefyd. Fel Prosser Rees, cyhoeddodd hefyd gerdd yn 1917 yn The Cambrian News and Merionethshire Standard i gydymdeimlo â Mr a Mrs Thomas Evans, Penbont, a gollodd eu mab, David Morgan, yn Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gweithiodd Prosser fel clerc yn Western Ocean Colliery yn Nant-y-Moel, Cwm Ogwr, cyn dychwelyd yn ôl o’r ‘sowth’ fel newyddiadurwr. Yn Nantymoel yr oedd, yn ôl pob tebyg yn byw gydag un o'i frodyr, John, a oedd yn löwr. Roedd yn dal i dderbyn triniaeth ar gyfer twbercwlosis ac mae'n debyg wedyn wnaeth dychwelyd i'r teulu yn eu cartref newydd ym Morfa-Du. Gweithiodd wedyn ym mhapurau Rhyddfrydol y Welsh Gazette yn Aberystwyth a'r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1919 (lle cyfarfodd Morris T. Williams). Symudodd yn ôl i Aberystwyth yn 1921 a daeth yn olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1923, pan symudasant eu swyddfeydd o Ddinbych i Aberystwyth.

Ym 1923, cyhoeddwyd barddoniaeth Prosser mewn llyfr am y tro yn Gwaed Ifanc gyda bardd arall, J.T. Jones (John Tudor Jones). Fel mae’r teitl yn awgrymu, roedden nhw’n falch o fod yn ‘waed newydd’ i farddoniaeth ac ysgrifennu Cymraeg, gyda Prosser bryd hynny yn 22 a J.T. Jones yn 19 oed. Yn sicr bu bu cryn ddadlau am y gyfrol, hefyd am fod eu barddoniaeth yn fwy rhywiol na beirdd hŷn y cyfnod. Roedd traddodiad o’r math newydd o ysgrifennu Cymraeg eisoes, a ddechreuwyd gan fuddugoliaeth T H Parry-Williams yn Eisteddfod 1915 gyda ‘Y Ddinas,’ ac roedd Prosser yn ymwybodol o’r syniadau newydd hyn o herio ysgrifennu Cymraeg, yr Eisteddfod ac felly cymdeithas iaith Gymraeg, y cafodd ei ysbrydoli ganddi a cheisiodd bod yn rhan ohoni - a llwyddo. Ymgais oedd hon i herio ysgrifennu beirdd hŷn, yn ogystal â thynnu sylw at y cnwd mwy newydd o lenorion iau, y dynion oedd wedi goroesi’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn mynnu sylw.

Wrth gwrs, heriodd yn arbennig status quo yr Eisteddfod pan enillodd y Goron yn 1924 yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl gyda’i gerdd ‘Atgof’. Mae’r pryddest yn dilyn taith ‘llanc synhwyrus’ sy’n profi ei rywioldeb, o weld ‘Rhyw’ yn difetha perthynas ei rieni, i archwilio ei rywioldeb gyda merched, ac yna gyda dyn hefyd (Morris T. Williams, mae’n debyg), tra yn ymdrechu yn erbyn moesau a rhinweddau cymdeithas a chrefydd Cymru. Roedd beirniaid yr Eisteddfod yn groes, yn ei chael hi'n anfoesol a’n ei chanmol.

Wrth gwrs, pan enillodd Prosser, roedd yr ymateb yn sgandal a daeth ‘Atgof’ yn bur ddadleuol, oherwydd ei drafodaethau amlwg am ryw ac wrth gwrs y rhan cyfunrywiol o’r gerdd. Ers hynny, mae wedi cael ei galw’n ‘homoerotig’ gan lawer o lenorion, acheddiw yn cael ei hystyried yn fwy fel cerdd ddeurywiol, neu gerdd cwiar. Mae Mihangel Morgan, yn ysgrifennu yn Queer Wales, yn gweld ‘Atgof’ yn ddarlun negyddol o gyfunrywioldeb ac yn bychanu ei arwyddocâd fel cerdd hoyw.

A’n cael ein hunain yn cofleidio ‘dynn;

A Rhyw yn ein gorthrymu; a’i fwynhau;

A phallu’n sydyn fel ar lan y llyn…

Mae’r llinellau hyn yn disgrifio’r rhan cyfunrywiol ac mae’n wir nad yw’n cymryd llawer iawn o’r gerdd, ond mae’n ymddangos bod siom Mihangel Morgan yn deillio o’r ffaith nad yw’r gerdd yn ddigon hoyw. Ac yn wir nid yw, ond mae’n darllen fel cerdd ddeurywiol sy’n mynd â ni drwy holl daith Prosser o sylweddoli a brwydro yn erbyn ei rywioldeb yn yr oes hon. Mae’n dal i atseinio gyda llawer o’r gymuned LHDTC+, yn enwedig wrth sylweddoli pa mor amlwg ydoedd ar gyfer 1924 (neu ni fyddai wedi bod mor ddadleuol), 40 mlynedd cyn dad-droseddoli cyfunrywioldeb, ac roedd ei fuddugoliaeth yn yr Eisteddfod ymhell o blaen ei amser.

Ar y llaw arall, yn ddiweddarach ym mywyd Prosser, awgrymwyd ei fod wedi cael cymaint o sioc gan sodomiaeth yn ysgrifen rhywun arall i beidio â’u cyhoeddi. Mae’n bosibl y newidiodd safbwyntiau Prosser a’i rywioldeb ei hun yn ei fywyd, er mai dim ond dyfalu yw hyn bod Prosser wedi’i ‘syfrdanu’ wrth ysgrifennu am gyfunrywioldeb. Mae yna lawer o bosibiliadau yma o ran teimladau a rhywioldeb Prosser ei hun, ond mae’n sicr eu bod wedi cael dylanwad mawr ar ysgrifennu LHDTC+ a’r gymuned yng Nghymru ac yn enwedig yn y Gymraeg.

Soniwyd hefyd am ‘Atgof’ a Prosser yn Time yn 1924, gan ychwanegu at dystiolaeth o ddylanwad ac etifeddiaeth y gerdd hon. Yn rhyngwladol, gwelwn gysylltiadau yn y cerddi â rhywoleg a seiciatreg y cyfnod – soniodd y seicdreiddiwr (ac o bosibl gŵr sarhaus y gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen) Ernest Jones am y gerdd mewn llythyr at Sigmund Freud, er nad yw’n glir bod y naill na’r llall wedi darllen y gerdd.

Ysgrifennodd Caradog Pritchard yn ei hunangofiant y credai mai’r gŵr yr ysgrifennodd Prosser amdano oedd Morris Williams, fel ffrind i’r dau, ac mae hyn wedi’i dderbyn fel y gwir tebygol ers hynny. Roedd Morris T. Williams yn agos i Prosser, pan oeddynt yn gyd-letywyr yn Twthil ger Caernarfon tra yn gweithio yn yr ‘Herald Cymraeg,’ a chyfnewidiasant lythyrau wedi hynny sy’n dangos eu perthynas agos — roedd hyn cyn i Morris briodi Kate Roberts a phrynu Gwasg Gee gyda’i gilydd. Arhosodd y tri yn agos, gan fod yn ffrindiau ac yn yr un cylchoedd cymdeithasol â llenyddol, yn ogystal ag ym myd cyhoeddi Cymraeg. Yn fwy diweddar, damcaniaethwyd bod Kate Roberts hefyd yn cwiar, yn seiliedig ar ei hysgrifennu personol â'i straeon byrion am berthnasoedd rhamantus rhwng merched (fel ‘Nadolig’ a ​​'Y Trysor’). Bu farw Morris T. Williams ym 1946, flwyddyn ar ôl Prosser Rhys, ar ôl brwydr hir ag alcoholiaeth.

Cyhoeddwyd ‘Atgof’ fel llyfryn, gyda chyfieithiad o’r enw ‘Memory’ gan Hywel Davies hefyd wedi’i gyhoeddi fel llyfryn. Mae'r gerdd yn darllen yn llai amlwg na'r fersiwn Gymraeg, er ei bod yn cael ei chanmol ar y pryd. Gellir ei ddarllen yma - er bod angen cyfieithiad Saesneg modern.

Ym 1928, priododd Prosser â Mary Prudence Hughes yn Aberystwyth, a dyna pryd y cymerodd ef a hi y cyfenw ‘Rhys’. Bu iddynt un ferch, Eiddwen Rhys. Sefydlodd Wasg Aberystwyth hefyd yn 1928 a dechreuodd gyhoeddi llyfrau, gyda Gwasg Aberystwyth yn tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Fel golygydd Baner ac Amserau Cymru, anogodd Prosser fwy o feirdd i ysgrifennu a chyhoeddi eu gwaith. Sefydlodd Y Clwb Llyfrau Cymraeg yn 1937; tanysgrifiad o lyfrau Cymraeg, lle byddai darllenwyr yn derbyn 4 llyfr y flwyddyn am hanner coron, ac a gyhoeddodd 45 o gyfrolau hyd at 1945. Mor llwyddiannus ag y bu o dan Prosser, wedi ei farwolaeth, penderfynwyd nad oedd digon o lenorion iaith-Cymraeg i'w barhau.

image

(Pwyllgor gwaith Plaid Genedlaethol Cymru, 1927- Lewis Valentine, Ambrose Bebb, D. J. Williams, Mai Roberts, Saunders Lewis, Kate Roberts, H. R. Jones, Prosser Rhys.) 

Roedd Prosser Rhys yn un o aelodau sylfaenol Plaid Cymru, a sefydlwyd yn 1925. Ef hefyd oedd golygydd ‘Y Ddraig Goch’ gyda Saunders Lewis ac Iorwerth C. Peate - y bu Prosser hefyd yn gymorth i’w ffurfio gyda H. R. Jones, er ei fod yn wrthwynebus i ddechrau oherwydd diffyg arian. Daeth Prosser yn lleisiol yn erbyn safbwyntiau adain dde Saunders Lewis. Ysgrifennodd yn Y Faner fod llawer o aelodau Plaid Cymru wedi dod o'r blaid Lafur neu'r blaid Ryddfrydol, neu'n radicaliaid a ddaeth o ddim plaid wleidyddol, lle nad oedd yr un yn gefnogol i'r safbwyntiau a ymddangosodd yn y Daily Mail, gan awgrymu bod barn Saunders Lewis yn rhy agos at y mater, ond bod y rhan fwyaf o gefnogwyr Plaid Cymru yn rhy deyrngar i leisio eu pryderon am hyn. Trafodwyd ac awgrymwyd diarddel Prosser o'r blaid ond roedd Saunders Lewis yn gwrthwynebu hyn. 

Yn dilyn ei lwyddiannau niferus, symudodd Prosser a’i deulu i 33 North Parade, Aberystwyth, lle bu’n byw hyd ei farwolaeth.

image

Wedi i'w iechyd ddirywio eto o 1942, bu farw Prosser Rhys yn 1945 - yn 43 oed, a llai na mis cyn ei ben-blwydd yn 44 oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Llanbadarn Fawr, a’i fedd yn dyfynnu T. Gwynn Jones: “Gwyrodd êfo î’r drugaredd fawr, Ni wyr namyn Duw ddirgelwch ei wên.” Yma hefyd y claddwyd Mary Prudence Rhys, ei wraig, a fu farw yn 1991, yn 87 oed. Maent hefyd wedi eu claddu gyda William Dewi Morris Jones, a fu farw yn 1983, yn 56 oed. Bu marwolaeth Rhys yn sicr yn golled i gyhoeddi ac ysgrifennu Cymraeg.

Prynwyd Gwasg Aberystwyth gan J. D. Lewis & Sons o Landysul ar ôl marwolaeth Rhys, sylfaenydd Gwasg Gomer, a barhaodd â’r Clwb Llyfrau Cymraeg a chymerodd drosodd y gwaith o gyhoeddi llyfrau’r clwb hyd 1952. Daeth hyn, fodd bynnag, yn dilyn anghytundeb cyfreithiol rhwng Mary Prudence Rhys a Morris T. Williams, a oedd i fod i gael y cynnig cyntaf a’r cyfle o wrthod i Wasg Aberystwyth, yn ôl dogfennau cyfreithiol y cytunodd Prosser a Morris arnynt - nad oedd Morris Williams yn teimlo ei fod wedi’i gael.

Cyhoeddwyd Cerddi Prosser Rhys yn 1950 gan Wasg Gee, casgliad cyntaf Prosser yn gyfan gwbl o’i gerddi ei hun – a gyhoeddwyd 5 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i olygu gan J.M. Edwards, cyd-fardd a fu’n cystadlu mewn Eisteddfodau ac a oedd o ardal debyg i Rhys, mae Edwards hefyd yn ysgrifennu cyflwyniad y casgliad barddoniaeth. Mae'n nodi iddo benderfynu bod 4 blynedd ar ôl marwolaeth Rhys yn ddigon o amser i gyhoeddi o'r diwedd gasgliad cyfan o gerddi gorau Rhys (ysgrifennwyd y rhagymadrodd ym mis Gorffennaf, 1949, a chyhoeddwyd y llyfr ym mis Chwefror, 1950.) Mae'n ysgrifennu bod ei farddoniaeth flaenorol casgliad, yn ‘Gwaed Ifanc’, yn gyfrol a ddenodd gryn dipyn o sylw ac a ddaeth hefyd â nodyn newydd, beiddgar i fyd barddoniaeth Gymraeg y cyfnod, rhywbeth yr oedd dirfawr ei angen. Ei atgofion o Rhys wrth dyfu i fyny dangos ei fod yn fardd adnabyddus hyd yn oed yn ei ieuenctid, y clywodd Edwards ac eraill yn ei ysgol ei hun amdano cyn cyfarfod, a oedd yn adnabyddus am gystadlu a chael llwyddiant mewn nifer o Eisteddfodau.

O’i farddoniaeth a geir yn Cerddi Prosser Rhys, noda Edwards fod ‘Y Gof’ yn deyrnged i’w rieni a’i fywyd cynnar yng nghefn gwlad Cymru. Ei ddau soned y mae’n eu canmol fwyaf yw ‘Y Pechadur’ a ‘Duw Mudan’. O 'Atgof,’ noda Edwards yn arwyddocaol ei bod yn gerdd feiddgar a greodd gryn gyffro ac a ganmolwyd gan rai ond a gafodd ei damnio gan eraill, a’i nodwedd tristaf yr holl ddigwyddiad oedd ei bod yn adlewyrchu agwedd meddwl yng Nghymru sef rhy barod i farnu gwerthoedd byd y celfyddydau yn ôl y safonau anghywir. Mae’r rhagymadrodd yn gorffen drwy ailadrodd yr hyn y mae llawer o bobl eraill wedi’i ddweud am golled gynamserol Rhys i fyd ysgrifennu a chyhoeddi Cymraeg. Roedd Edwards hefyd yn gobeithio y byddai yna hefyd gasgliad o ryddiaith Rhys, nad yw wedi dod i fod, yn anffodus.

Mae ‘Mab ei Fam’ i “M.T.W,” Morris T. Williams mae’n debyg – fel Strancio: ‘I’d disgwyl a fu’n cyd-letya â mi.’

Do, bûm yn flin. Ond weithian gwybydd di
Fod Fflam yn llosgi ynof, ac aml dro
Yn llamu ar draws fy nghorff materol i,
A’m hysu hyd fy nghyrru i maes o’m co’,

A strancio a wnaf eto rhag fy ffawd
Nes torro’r Fflam ei ffordd o’i charchar cnawd.

Fel yn achos ‘Atgof,’ mae Mihanel Morgan yn bychanu Strancio drwy ddatgan ei fod yn cryptig a gochel - tra byddwn yn dadlau bod cyfaddefiad ei deimladau tuag at ddyn yn y 1920au, yn enwedig yn dilyn y farddoniaeth Fictoraidd honno oedd yn boblogaidd cyn y 'Gwaed Newydd’. Tra y dywed Mihangel Morgan y tybir mai am Morris T. Williams, y mae’r cysegriad ar ddechrau’r gerdd yn ddigon clir, yn hanesyddol, i Morris T. Williams, yn enwedig pan gyflwynir cywydd blaenorol iddo hefyd.

Nid tan 1980 y dathlwyd Prosser Rhys gyda llyfr am ei fywyd, gan Rhisiart Hincks. Ysgrifennodd T. Robin Chapman yn Y Traethodydd yn 2006 fod Hincks yn ôl pob tebyg yn gwybod am natur perthynas Prosser â Morris ond eto fe gadodd allan - o unig gofiant cyfan Prosser Rhys. Mae hyn yn arwydd o'r amserau y cafodd ei ysgrifennu a'i gyhoeddi ond mae'n dangos yr angen nawr i ysgrifennu cofiannau Rhys sy'n cynnwys yr hyn a eithriwyd yn flaenorol, ei hunaniaeth cwiar. Mae Hincks yn sôn, fel y daeth Morris yn gyflym ‘ei gyfaill pennaf’i pan gyfarfuant yng Nghaernarfon, iddynt symud gyda'i gilydd i 15 Stryd Eleanor ac mai Prosser a gyflwynodd Williams i lenyddiaeth. ‘Cyfeillgarwch clos’. Mae hefyd yn crybwyll bod agosrwydd o'r fath wedi arwain at cwympo mas, unwaith pan oeddent yn cwympo mas drwy'r nos, sy'n dangos dwyster eu perthynas. Efallai, yr is-destun hwn y gobeithiai Hincks ei ddeall gan gynulleidfa’r oes. O ‘Atgof,’ noda Hincks fod Prosser wedi mynegi o’r blaen fod diffyg rhyw yn y Gymraeg mewn barddoniaeth ddiweddar, rhywbeth y mae’n ei feio ar y capel. Mae'r cofiant hwn yn parhau i fod y mwyaf manwl ar fywyd Prosser.

Dadorchuddiwyd cofeb ar y Mynydd Bach, yn edrych dros Lyn Eiddwen ger Trefenter, lle cafodd Rhys ei eni a byw yn ei blentyndod, yn 1992, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Gan gynnwys Prosser, mae ‘Cofeb i Feirdd y Mynydd Bach’ yn dathlu 4 bardd o’r ardal leol. Enillodd J.M. Edwards o Lanrhystud y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd, yn 1937, 1941 ac yn 1944, ac ysgrifennodd y rhagymadrodd i Cerddi Prosser Rhys. Bu pob un o'r 4 bardd a enwir ar blac y gofeb yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod. Bardd llwyddiannus o Geredigion oedd B. T. Hopkins (Benjamin Thomas Hopkins), a oedd yn byw ac yn ffermio ar y Mynydd Bach. Bardd a llenor Cymraeg o Geredigion oedd T Hughes Jones (Thomas Hughes Jones) a enillodd fedal yn Eisteddfod Genedlaethol 1940 am stori fer, ‘Sgwier Hafila,’ a feirniadwyd yn rhannol gan Kate Roberts.

Mae diddordeb yn Rhys, ei fywyd a’i yrfa, wedi’i adnewyddu gan ymchwil i hanes ac ysgrifennu LHDTC+ Cymru. Yn nodedig, ym 1998, darlledwyd dogfen hanesyddol o’r enw ‘Atgof’ ar S4C, a gyfarwyddwyd gan Ceri Sherlock, a oedd yn darlunio Prosser yn ysgrifennu’r gerdd a’i berthynas â Morris T. Williams, a gynrychiolwyd fel un rhywiol a rhamantus. Bu dadlau o gwmpas y ffilm, fel ‘Atgof’ y gerdd, gyda rhai’n cwestiynu sut yr oedden nhw’n darlunio’r berthynas (gyda rhai manylion ffuglennol) a rhai hefyd yn cwestiynu a ddylid ei darlunio neu ei ddyfalu o gwbl. Er gwaethaf y disgwrs, roedd Prosser Rhys eisoes wedi dod yn ysbrydoliaeth i gymuned LHDTC+ Cymru.

Yn 2019, perfformiwyd y sioe ‘Corn Gwlad’ yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, a grëwyd gan Seiriol Davies, a oedd yn dathlu buddugoliaeth Prosser yn yr Eisteddfod ac yn darlunio ei deimladau tuag at Morris T. Williams. Roedd hi wedyn yn sioe waith ar y gweill, gyda chomedi a cherddoriaeth, ac yn rhan o raglen o ddigwyddiadau ‘Mas ar y Maes’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n arbennig ar gyfer y gymuned LHDTC+, neu a allai fod yn berthnasol i’r cymuned LHDTC+. Cafodd Prosser sylw hefyd mewn digwyddiadau ‘Mas ar y Maes’ gyda ‘Cariad yw Cariad,’ ac wrth gwrs mae’n cael sylw mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024, ar ganmlwyddiant i Prosser ennill y Goron gydag Atgof. ‘Atgof’ oedd hefyd eto pwnc barddoniaeth i’r Goron - a enillwyd gan Gwynor Dafydd.

Etifeddiaeth barhaol Prosser Rhys yw bod yn llais i’r gymuned hon o Gymru’r 20fed ganrif, ac yn eicon yn arbennig i bobl LHDTC+ Cymraeg eu hiaith, dynion queer a phobl ddeurywiol. Dyma sydd wedi dod â Prosser Rhys yn ôl i lygad y cyhoedd yn y 1990au, gyda’r ffilm Atgof, ac yn y 2010au gyda Mis Hanes LHDTC+, ac yn y 2020au tua 100 mlynedd ers iddo ennill Coron yr Eisteddfod gydag ‘Atgof’. Cafodd Prosser hefyd effaith sylweddol ym myd cyhoeddi yng Nghymru, y gymdeithas Gymreig, yn ei ysgrifau erthyglau, mewn gwleidyddiaeth. Roedd Prosser Rhys yn berson hynod ddiddorol, cymhleth, yn eiriolwr brwd dros farddoniaeth, ysgrifennu a chyhoeddi Cymraeg ac mae’n arwr y cymunedau y perthynai iddynt, gan gynnwys y gymuned leol yng Ngheredigion a Gorllewin Cymru.

 

Comments

Popular Posts