Bywyd Cwiar Cranogwen
Ganed ‘Cranogwen’ (9 Ionawr 1839 – 27 Mehefin 1916), neu Sarah Jane Rees, yn Llangrannog, i Frances Rees a’r morwr John Rees. Yn anarferol am y cyfnod, addysgwyd Cranogwen yn yr ysgol leol ynghyd â’i brodyr hyd at bymtheg oed. Mae’n hefyd yn aml yn cael ei ystyried yn anarferol oedd Cranogwen yn morwr yn ymuno â’i thad ar y môr yn masnachu ar hyd yr arfordir ac weithiau i Ewrop. Fodd bynnag, nid oedd yn anghyffredin i ferched fynd gydag aelodau gwrywaidd o'u teulu i weithio. Roedd gwragedd a phlant y morwyr yn mynd gyda nhw, er na chaniatawyd hyn ar longau’r Llynges Frenhinol ar ôl 1869. Mae rhai morwyr benywaidd eraill yn cael eu hystyried yn cwiar heddiw, a rhai morwyr hefyd yn cael eu hystyried yn ddynion traws. Dychwelodd Cranogwen i addysg ar ôl tair blynedd ar y môr, i ysgolion mordwyo yn y Cei Newydd a Llundain, ac yn 1859 sefydlodd un ei hun yn Llangrannog. Er bod tystiolaeth o feirniadaeth ar ferched yn rhedeg ysgolion mordwyo, o eglwysi a’r ‘Llyfrau Gleision’, nid oes cofnod o feirniadaeth o’r fath tuag at Cranogwen.
Ym 1865 enillodd Cranogwen yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth gyda ‘Y Fodrwy Briodasol’, yn mynegi beirniadaeth o’r disgwyliad ar ferched i briodi, trwy safbwyntiau pedair priodferch, gan gynnwys un yn dioddef o gam-drin domestig. Curodd hi feirdd gwrywaidd enwog fel Islwyn. Yr oedd ei henw barddol yn cynnwys yr enwau Sant Caranog, yr enwyd Llangrannog ar ei gyfer, a'r afon Hawen gerllaw. Gyda llwyddiant parhaus mewn Eisteddfodau, cyhoeddwyd Caniadau Cranogwen yn 1870 a bu Cranogwen yn siarad ledled Cymru, a theithio fel pregethwr lleyg Methodistaidd, gan gynnwys dwy daith Americanaidd.
Ym 1874, bu farw Fanny Rees o Langrannog o'r diciâu ym mreichiau Cranogwen, ar ol symud i fyw yn ei chartref teuluol. Disgrifir galar Cranogwen ar ddiwedd trasig ei pherthynas mewn ysgrifeniadau hunangofiannol. Yn ogystal, ystyrir ei barddoniaeth i fel ei hysgrifennu mwyaf angerddol, megis ‘Fy Ffrynd’. (Ceir cerdd angerddol iddi hefyd gan Buddug, sy’n disgrifio sut y bu bron iddi addoli ac edmygu Cranogwen ‘anfarwol’.) Wrth i Cranogwen barhau i fyw gyda’i rhieni, roedd Jane Thomas yn byw yn agos, fel ei phartner cefnogol ac ymroddedig. Pan fu farw rhieni Cranogwen, gwerthodd y tŷ a bu’n byw gyda Jane am ugain mlynedd olaf ei bywyd.
Ym 1878, daeth Cranogwen yn olygydd 'Y Frythones' - nid y cylchgrawn cyntaf i ferched Cymru ond y cyntaf a olygwyd gan fenyw - a oedd â mwy o negeseuon proto-ffeministaidd a hyd yn oed cwiar na'i ragflaenydd, er yn dal i gynnwys gwersi ar fod yn merched a menywod dosbarth canol parchus a chrefyddol. Ond o fewn y gwersi hyn, roedd Cranogwen yn hyrwyddo ysgrifennu merched Cymru, gan sicrhau bod 'Y Frythones' yn cael ei ysgrifennu ar gyfer merched gan ferched, wrth ddweud i'w darllenwyr nad oedd angen iddynt i gyd briodi, fel ‘merch fan yma ar ein pwys’ (Jane Thomas) a byddai’n rhoi atebion, yn y golofn 'Cwestiynau ac Atebion', y gellir bellach eu dadansoddi fel queer. Ym 1887, pan ysgrifennodd darllenydd wrth gwestiynu steiliau gwallt byr bob ar ferched, gan ddweud na allai ddweud ai merched neu fechgyn oedd y rhai â'r steiliau gwallt hyn, atebodd Cranogwen: “Yn gyntaf peth gan hyny, felly, gofynnwch i'r person pa un fydd, ai bachgen ai merch? Yna ewch yn mlaen a'ch neges." Pan holodd darllenwyr am ferched yn dod yn bregethwyr, fel Cranogwen ei hun, daeth hi i’r casgliad, “Nid yw gwahaniaeth rhyw yn ddim byd yn y byd.”
Roedd Cranogwen yn forwr, athrawes, bardd, llenor, golygydd, ymgyrchydd dirwest a llawer mwy. Etifeddiaeth ffeministaidd yw ei hetifeddiaeth – sefydlwyd ‘Llety Cranogwen’, lloches i ferched a menywod digartref yn y Rhondda gan Undeb Dirwestol De Cymru. Mae hi’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth, i’r grŵp Cymraeg ‘Cywion Cranogwen’ ac i gylchgronau Cymraeg modern gan ac ar gyfer merched Cymru, fel ‘Codi Pais.’ Mae ei hetifeddiaeth hefyd yn un cwiar, yn ysbrydoli merched a phobl cwiar, ac oedd Cranogwen yn agored am ei pherthynasau yn ei hoes ei hun (er fel 'cyfeillgarwch rhamantus' pryd hynny), sydd bellach yn cael eu dileu yn rhy aml yn hanes y fenyw 'anfarwol' hon. Dylai Fanny Rees a Jane Thomas, a oedd yn caru ac yn cefnogi Cranogwen, a’r themâu cwiar mewn barddoniaeth gan ac i Cranogwen, bellach gael eu cynnwys yn barhaol yn ei hanes. Ni ddylid dileu eu hanes nac arwyddocâd etifeddiaeth Cranogwen i bobl LHDTC+, ac yn enwedig menywod cwiar Cymru.
Ffynonellau a Darllen Pellach:
- Caniadau Cranogwen
- Jane Aaron, ‘Gender Difference is Nothing,’ Queer Wales, gol. Huw Osborne & ‘Developing Women’s Welsh-language Print Culture’ Nineteenth Century Women’s Writing in Wales.
- Katie Gramich & Catherine Brennan gol. Welsh Women’s Poetry, 1460-2001: An Anthology.
- Norena Shopland, Forbidden Lives: LGBT Stories of Wales.
- Sian Rhiannon Williams, ‘Y Frythones: Portread Cyfnodolion Merched y Bedwared Ganrif ar Bymtheg o Gymraeg yr Oes,’ Llafur, IV, 1 (1984).
- Jane Aaron, Cranogwen, 2023
Llun o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Comments
Post a Comment